Yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol - Welsh Flowers of Orthodoxy 1

 https://theflowersoforthodoxy.blogspot.com

The Flowers of Orthodoxy






Yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol


Welsh Flowers of Orthodoxy 1


ORTHODOX CHRISTIANITY – MULTILINGUAL ORTHODOXY – EASTERN ORTHODOX CHURCH – ΟΡΘΟΔΟΞΙΑ – ​SIMBAHANG ORTODOKSO NG SILANGAN – 东正教在中国 – ORTODOXIA – 日本正教会 – ORTODOSSIA – อีสเทิร์นออร์ทอดอกซ์ – ORTHODOXIE – 동방 정교회 – PRAWOSŁAWIE – ORTHODOXE KERK -​​ නැගෙනහිර ඕර්තඩොක්ස් සභාව​ – ​СРЦЕ ПРАВОСЛАВНО – BISERICA ORTODOXĂ –​ ​GEREJA ORTODOKS – ORTODOKSI – ПРАВОСЛАВИЕ – ORTODOKSE KIRKE – CHÍNH THỐNG GIÁO ĐÔNG PHƯƠNG​ – ​EAGLAIS CHEARTCHREIDMHEACH​ – ​ ՈՒՂՂԱՓԱՌ ԵԿԵՂԵՑԻՆ​​ / Abel-Tasos Gkiouzelis - https://gkiouzelisabeltasos.blogspot.com - Email: gkiouz.abel@gmail.com - Feel free to email me...!

♫•(¯`v´¯) ¸.•*¨*
◦.(¯`:☼:´¯)
..✿.(.^.)•.¸¸.•`•.¸¸✿
✩¸ ¸.•¨ ​


Sant Beuno Cymru (+642)

21 Ebrill


Sant Cymreig oedd Beuno (bu farw c.642). Mae'n fwyaf adnabyddus fel sylfaenydd clas Clynnog Fawr yng Ngwynedd.

Bywgraffiad

Dywedir ei fod yn perthyn i deulu brenhinol Morgannwg, ac iddo gael ei eni ym Mhowys, ar lan Afon Hafren. Cafodd ei addysgu yng Nghaerwent cyn ymsefydlu yn Aberriw. Yn ddiweddarach bu yng Ngwyddelwern a Threffynnon, cyn ymsefydlu yng Nglynnog. Dywedir i'r tir i sefydlu'r clas yng Nghlynnog gael ei roi gan bennaeth o'r enw Gwyddeint, cefnder i frenin Gwynedd, Cadwallon ap Cadfan, oedd yn teyrnasu rhwng tua 620 a 633.

Dywedir fod y santes Gwenffrewi yn nith iddo. Yn ôl y traddodiad, syrthiodd pendefig ieuanc o'r enw Caradog mewn cariad a hi, a phan wrthododd hi ef, torrodd ei phen a chleddyf. Gosododd Beuno ei phen yn ôl ar ei hysgwyddau a'i hadfywio.

Mae ei ddydd gŵyl ar 21 Ebrill.


<>




Yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol


ON Ni ddylid drysu'r Eglwys hon ag Eglwys y tri chyngor, a elwir yn Oriental yn Saesneg.

Ail enwad Gristnogol fwya'r byd, a'r mwyaf o'r Eglwysi Uniongred, gyda rhwng 150 a 350 miliwn o ddilynwyr, yw'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol. Fe wahanodd o Eglwys y tri chyngor ym 451, ac o'r Eglwys Gatholig Rufeinig ym 1054. Prif grefydd Belarws (89%), Bwlgaria (86%), Gweriniaeth Cyprus (88%), Georgia (89%), Gwlad Groeg (98%), Macedonia (70%), Moldofa (98%), Montenegro (84%), Rwmania (89%), Ffederasiwn Rwsia (76%), Serbia (88%), ac Wcráin (83%) ydyw, a cheir niferoedd sylweddol mewn gwledydd eraill.

Ymrannodd yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol a'r Eglwys Gatholig oddi wrth ei gilydd yn y Sgism Fawr. Dechreuodd yn 857 pan ysgymunwyd Photius, Patriarch Caergystennin gan y Pab Sant Nicolas I (858 - 867). Ymatebodd y patriarch drwy herio uniongrededd Eglwys Rhufain, yn arbennig yn achos cymal yng Nghredo Nicea ynglŷn â tharddiad yr Ysbryd Glân o Grist (y cymal filioque "ac o'r Mab..").

Daeth yr anghydfod i'w uchafbwynt cyntaf yn 1054 pan ysgymunwyd y patriarch Cerularius o Gaergystennin (1043 - 1058) am iddo feirniadu diweirdeb offeiriadol gorfodol y Gorllewin a defnyddio bara heb ei godi yn yr offeren fel arferion hereticaidd. Er gwaethaf ymgeision i gymodi yn Ail Gyngor Lyons yn 1274 a Chyngor Fflorens yn 1439, daeth y rhwyg terfynol yn 1472. Un ffactor a arweiniodd at y rhwyg terfynol oedd ymddygiad y Croesgadwyr yn ymosod ar Gristnogion ac eglwysi uniongred yn Asia Leiaf a'r Lefant, gan gynnwys ymosod ar Gaergystennin ei hun a'i dal (1204 - 1261).



<>



Sant Aerdeyrn Cymru (c. 6g)


Roedd Sant Aerdeyrn (c. 6g) yn sant o Gymru. Roedd yn ddisgynnydd Gwrtheyrn, sy'n golygu ei fod yn perthyn i deulu Brenhinol Teyrnas Powys.

Roedd yn frawd i Sant Edeyrn a Elldeyrn mae e'n aml yn gysylltiedig â nhw. Mae ei enw yn tarddu o'r gair Celtaidd am Tywysog. Adeiladodd Eglwysi yn Sir Forgannwg ac mae e'n Nawddsant ar Llanelldeyrn, Cymru.


<>





Sulgwyn

Gŵyl Gristnogol symudol yw'r Sulgwyn a gynhelir ar yr wythfed Sul ar ôl y Pasg. Mae'n dathlu disgyn yr Ysbryd Glân ar yr Apostolion ac yn seiliedig ar yr 'Ŵyl yr Wythnosau' Iddewig. Gellir olrhain ei dathlu i'r 3ed ganrif OC.

Yr enw Lladin ar yr ŵyl yw Pentecost, sy'n deillio o'r gair Groeg pentikosti, sef 'y 50fed ddiwrnod' (ar ôl y Pasg). 


<>




Sant Aelhaearn Cymru (7g cynnar)

1 Tachwedd & 2 Tachwedd


Roedd Sant Aelhaearn neu Aelhaearn' fl.(7g cynnar) yn gynffeswr Cymraeg ag yn sant (Rhestr o seintiau Cymru) yr Eglwys Geltaidd. Roedd yn ddisgybl i Sant Beuno. Roed ei wyl Gŵyl Mabsant fel arfer yn cael ei gynnal ar 2 Tachwedd.

Bywyd

Mae Sant Aelhaearn yn cael ei restru yng nghyd a Bonedd y Saint (Llinach y Seintiau). Roedd yn frawd i'r seintiau Llwchaiarn (Llanmerewig) a Cynhaiarn ag yn fab i Hygarfael o Gerfael, mab Cyndrwyn, a tywysog Powys (Teyrnas Powys), brenhinlin o Gwrtheyrn, brenin Prydain. Roedd yr ardal oedd wedi ei reoli gan Cyndrwyn wedi ei ganoli ar yr Afon Hafren, Amwythig. Yn ol y sôn, roedd Aelhaearn wedi bod yn ddisgybl i Sant Beuno, a oedd hefyd yn rhan o'r un llinach, ac felly'n gefnder iddo. Roedd gweithgareddau Bueno wedi cael ei gefnogi gan Cadfan ap Iago ac aelodau eraill o frenhinlin Cunedda, Teyrnas Gwynedd; mae'n debygol fod Aelhaearn wedi ymuno ag ef allan o Bowys i Edeirnion ac yna ymlaen at y gogledd-orllewin.

Gwyrthiau

Mae'r prif wyrth sy'n cael ei gysylltu a Aelhaearn yn un a gafodd ei gyflawni gan Beuno, a oedd wedi ei atgyfodi (yn ogystal â chwech arall). Mae dehongliad o'r 18g gafodd ei adrodd i John Ray yn Llanaelhaearn yn darparu Tarddiad gwerin ar gyfer enw anghyfarwydd Aelhaearn. Mae'n honni roedd Beuno yn arfer diflannu o'i gell ger Clynnog Fawr bob nos i deithio 4 mile (6.4 km) er mwyn gweddio ar garreg gwastad yng ynghanol yr Afon Erch. Un noson, wrth i Beuno dychwelyd, gwelodd ryw ddyn yn cuddio'n y tywyllwch; yna gweddiodd pe bai'r dyn ar ewyllys da, y byddai'n llwyddo, ond os oedd e am gwneud drwg, byddai esiampl yn cael ei wneud ohono. Yn syth ar ol dweud hyn, gwelodd anifeiliad gwyllt yn ymddangos o'r coedwig a'i rwygo'n bedwar a pen. Ailfeddyliodd Beuno pan darganfyddodd mai ei was oedd wedi fod yn ysbio arno. Rhoddodd Beuno'r esgyrn a'r cnawd at ei gilydd oni bai am yr asgwrn o dan ei ael, a oedd ar goll. Yn ei le fe rhoddodd darn o haearn o bigyn ei bicell. (Galwodd Thomas Pennant (awdur), y stori yn "rhy afresymol i'w traethu, yn ei lyfr Tour in Wales, ac felly gwrthododd wneud hynny.) Mae Baring -Gould, wrth ei adrodd, yn ei gymharu gyda adferiad Thor o'i eifr Snarler a Grinder yn Prose Edda.

Ar ol i Llanaelhaeran gael ei sefydlu ar leoliad adfywiad y gwas, gorchmynodd Beuno i'w orchuchwylio ond, "fel cosb", gweddiodd byddai clychau Clynnog yn cael eu clywed ar hyd a lled y pentref, ond dim tu mewn eglwys Llanhaearn.

Wedi i Aellhaearn farw, hawliodd ei ddynion o diroedd y de ei gorff; dadleuwyd hyn gan mynachod Clynnog. Dywedir fod yna frwydyr wedi cychwyn a pharhaodd hyd y nos. Gyda'r gwawr, roedd yna ddwy arch ar ddwy Elor, cymerwyd un yr un gan y naill garfan. (Mae yna wyrth tebyg yn cael ei gysylltu a Sant Teilo, roedd ei greiriau wedi eu hawlio gan tair eglwys wahanol.)

Cafodd Aelhaearn ei anrhydeddu ar whahan yng Nghegidfa ger Y Trallwng ym Mhowys ag yn Llanaelhaearn ym Penrhyn Llŷn yng Ngwynedd. (Roedd yr ail, fodd bynnag, wedi cael ei adnabod ers amser fel "Llanhaiarn" fel llygriad ar ei enw; roedd y stad ger llaw yn cael ei adnobod fel "Elernion", ac mae'n debyg fod yna dechreuad tebyg i enw'r stad yna hefyd.)

Cymynrodd

Mae gan yr eglwys yn Llanaelhaearn waliau yn dyddio o tua'r 12g a cafwyd eu adfywio y tro diwethaf ym 1892. Maent wedi cael eu rhestri fel Gradd 2. Yn ystod ehangiad maes yr eglwys ym 1865, darganfodd gweithwyr y garreg bedd wedi ei arysgrifennu yn Lladin o Aliortus o Elmet, gall o bosib dangos roedd yna sefydliad crefyddol ar y maes cyn cyrrhaeddiad Beuno ac Aelhaearn.

Roedd y ddwy lleoliad yn cynnwys ffynon sanctaidd. Yng nhgynt roedd y ffynon yng Nghegidfa (Ffynon Aelhaearn) yn cael ei ymweld a gan  pobl y plwyf er mwyn iddynt cael diod ar Sul y Drindod. Roedd ffynon Sant Aelhaearn yn faes o werth ar llwybr gogleddol y pereindod i Ynys Enlli ac roedd yn cael ei ymweld gydag yn reolaidd o achos y gwellhad gwyrthiol oedd yn gysylltiedig a'r "chwerthin" neu "anesmwytho'r dwr", golygfa anghyfarwydd o ffrydio swigod drwy'r ffynon. Erbyn y 19g, roedd ffynon Llanaelhaearn wedi ei amgylchynu gan basn a meinciau cerrig; byddai pobl yn gorffwyso arnynt wrth iddyn aros i'r dwr "chwerthin". Ond roedd cychwyniad o diptheria ym 1900, wedi achosi'r cyngor lleol i, yng nghyntaf, amgau'r ffynon, ac yna, ei gloi oddi wrth y cyhoedd. Mae perchnogiaeth y ffynon wedi cael ei dadlau ac mae'n parhau i fod yn anghyraeddadwy; mae'r amgaed presennol yn dyddio o 1975.


<>



Sant Cadfan Cymru (+550)

1 Tachwedd


Sant Cymreig oedd Sant Cadfan (fl.550?) a sefydlodd yr eglwys yn Nhywyn, Gwynedd, a gysegrir iddo, ac ef oedd abad cyntaf Ynys Enlli.

Daw y rhan fwyaf o'r wybodaeth amdano o awdl Canu Cadfan gan Llywelyn Fardd yn y 12g. Mae traddodiad iddo arwain mintai o seintiau Cymreig i Lydaw a dywedir ei fod yn fab i Eneas y Llydawr. Yn ôl Llyfr Llandaf, hwylio i Dywyn o Armorica wnaeth ef a deuddeg arall. Yn ôl traddodiad Llydaw yw Armorica, er bod rhai yn cynnig mai o ysgol Gristnogol ar lan y môr ym Mhrydain y daeth, megis Llanilltud Fawr. Yn ôl traddodiad ei glas yn Nhywyn oedd y cyntaf a sefydlwyd ganddo yng Nghymru.

Cadfan ydyw nawddsant Llangadfan, Sir Drefaldwyn. Ei waith pennaf oedd sefydlu'r ‘clas’ yn Nhywyn, Meirionnydd; 

Tywyn oedd mam-eglwys pob rhan o Feirionnydd-is-Dysynni .

Ei ddydd gŵyl yw 1 Tachwedd.


<>



Sant Briog Cymru (+502)

1 Mai

Sant Cymreig o'r 6g sy'n bennaf gysylltiedig â Llydaw oedd Briog, Llydaweg: Brieg, Lladin:Briomaglus.

Bywgraffiad

Yn ôl ei fuchedd, a ysgrifennwyd yn yr 11g, ganwyd Briog yng Ngheredigion, Cafodd ei dad, Cerp, a'i fam, Eldruda, weledigaeth cyn iddo gael ei eni, a daethant yn Gristionogion. Dywedir iddo gael ei yrru i ddinas Paris lle cafodd addysg gan sant Garmon a'i ordeinio yn offeiriad.

Dychwelodd i Geredigion am gyfnod cyn symud i Lydaw, lle sefydlodd fynachlog yn Tréguier, yna fynachlog arall yn Sant-Brieg (Ffrangeg:St. Brieuc) a dyfodd yn esgobaeth. Mae Briog yn un o Saith Sant-sefydlydd Llydaw. 

Ei wylmabsant yw 1 Mai.



<>


Total Pageviews

Welcome...! - https://gkiouzelisabeltasos.blogspot.com